Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 2 Mawrth 2022
Amser:
09.33 -
11.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12632
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Y Farwnes Tanni Grey-Thompson, Candidate for Chair of Sport Wales |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Rhun Davies (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
1.2 Talodd y Cadeirydd deyrnged i Gomisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, a fu farw'n ddiweddar, a chytunodd i ysgrifennu at ei deulu i fynegi cydymdeimlad ar ran y Pwyllgor.
2 Gwrandawiad cyn penodi Cadeirydd Chwaraeon Cymru
2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer swydd Cadeirydd Chwaraeon Cymru.
3 Papurau i'w nodi
3.1 Nodwyd y papurau.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Ôl-drafodaeth breifat
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
5.2 Oherwydd yr amserlen ar gyfer adrodd, cytunodd yr Aelodau i drafod yr adroddiad ar y gwrandawiad cyn penodi, a chytuno arno, y tu allan i’r cyfarfod.
6 Trafod y llythyr oddi wrth y Llywydd mewn perthynas â’r adolygiad o’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru ac Ofcom
6.1 Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru a'r Swyddfa Gyfathrebu (Ofcom).
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i roi ei farn.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael): Trafod yr adroddiad drafft
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd i’w gyhoeddi yn ddarostyngedig i fân newidiadau.
8 Strategaeth a blaenoriaethau drafft ar gyfer y Chweched Senedd
8.1 Tafododd y Pwyllgor y ddogfen strategaeth a blaenoriaethau ddrafft a chytunodd i'w chyhoeddi.
8.2 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.
9 Cymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Trafod y dull o ymgysylltu
9.1 Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mewn perthynas â chanfyddiadau gwaith ymgysylltu’r Pwyllgor â phlant a phobl ifanc o ran blaenoriaethau’r Chweched Senedd.
9.2 Trafododd y Pwyllgor y dull a’r drefn ar gyfer ei waith ymgysylltu, a chytunodd arnynt.